Mwynhad |
Mae pob blwyddyn o flwyddyn 2 hyd at flwyddyn 6 wedi ethol cynrychiolydd i eistedd ar yr Eco Bwyllgor. Mae ganddynt rôl bwysig yn hybu ein hysgol i fod yn wyrdd. Aelodau Cyngor Eco Ysgol Bro Gwydir sy’n cynrychioli llais ein disgyblion. Maen nhw'n ddinasyddion egwyddorol gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Rydym yn cyfarfod o leiaf unwaith bob hanner tymor i gael trafodaethau ynglyn â beth sydd angen i ni fel cyngor weithio arno ond hefyd i godi ymwybyddoaeth o’r angen i ofalu am ein amgylchedd a’n byd. Mae’r Cyngor Eco yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithagreddau ar gyfer yr ysgol gyfan. Nid yn unig hynny maen’t yn cael y cyfle i gynnal gwasanaeth ysgol gyfan er mwyn rhannu y syniadau.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
© 2022 Ysgol Bro Gwydir. Gwefan gan Delwedd