Mwynhad |
Croeso i dudalen Y Cyngor Ysgol, Ysgol Bro Gwydir
Beth yw cyngor ysgol?
Grwp o ddigyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd gymryd rhan a threfnu prosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio yn ogystal a thrafod syniadau ar sut i weithredu Cynllun Datblygu’r Ysgol orau yn ogystal â chyfrannu barn tuag at gyfarfodydd llywodraethu a phenodiadau staff.
Byddem yn trafod unrhyw faterion sydd wedi codi, syniadau art sut i wella’r ysgol a threfnu unrhyw ddigwyddiadau. Mae’n bosib i chi weld munudau y cyfarfodydd trwy ddilyn y linc i’r blog.Bydd Cyngor Ysgol Bro Gwydir yn:
Lais i holl blant yr ysgol
Parhau i wella ein hysgol
Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel
Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
Rhoi cyfle i bawb rhannu syniadau
Trafod syniadau newydd
Casglu arian er mwyn helpu elusennau
Trefnu digwyddiadau i gasglu arian tuag at adnoddau newydd i’r ysgol er mwyn hybu iechyd a lles ein disgyblion
Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol.
Aelodau 2021-2022
Cadeirydd
Rylan Morris-RobertsIs-gadeirydd
Ioan Jac/ Mynor EvansYsgrifenyddes
Caleb WilliamsAelodau Eraill:
Molly Maria Hoyle, Cara Elena Morris-Roberts, Ella Grace CollinsBeth mae’r Cyngor Ysgol am wneud eleni?
Casglu arian i wahanol elusennau gan gynnwys; plant mewn angen, Ty Gobaith, Diwrnod Siwmper Nadolig, Sports Relief.
Casglu arian tuag at toiledau newydd i adran Iau yr ysgol.
Casglu arian tuag at greu Murlun newydd i ysbrydoli disgyblion yr ysgol.
Cynnal cystadleuaeth er mwyn creu cân/ anthem ysgol.
Cefnogi’r ysgol gyda gweithredu Cwricwlwm Newydd.
Cynnal gweithgareddau wythnos gwrth-fwlio a gwella ffitrwydd ein plant.
Casglu arian ar gyfer ffynon dŵr i’r plant.
.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
© 2022 Ysgol Bro Gwydir. Gwefan gan Delwedd