Mwynhad |
Elsi Grove
Iolo Roberts
Nel Roberts
Bonnie Walker
Bela Doran
Mae’r Llysgenhadon Lles yn gynrychiolwyr sydd wedi eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion er mwyn cyd-weithio i ddatblygu lles ar draws yr ysgol. Mae ganddynt ffocws benodol ar wrth-fwlio, iechyd meddwl a diogelwch ar-lein. Byddent yn codi materion gyda’r uwch-dîm a’r llywodraethwyr ac yn gweithredu ar unrhyw gonsyrn. Bydd y Llysgenhadon Lles yn trafod syniadau ar sut i weithredu’r Cynllun Datblygu a bydd munudau o bob cyfarfod yn cael eu cofnodi.
Mae Llysgenhadon Lles yn ddisgyblion sydd wedi dangos diddordeb arbennig mewn hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Mae’r disgyblion hyn yn awyddus i rannu eu dysgu ynghylch iechyd meddwl a hysbysebu pwysigrwydd hunanofal. Maent yn meddu ar agwedd agored ac anfeirniadol ac yn mabwysiadu dull cadarnhaol ac amyneddgar gyda disgyblion yr ysgol. Maent yn fodel rôl cadarnhaol sydd bob amser yn barod i wrando.
Sicrhau fod pawb yn hapus o fewn cymuned Ysgol Bro Gwydir
Monitro a dewis bocsys bwyd iach yr wythnos
Rhannu pegiau positif
Dewis toiledau newydd ar gyfer marched yr Adran Iau
Cyd-weithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru – mynychu cyfarfodydd dros y we
Rhannu eu hamcanion yn y gwasanaethau
Creu Calendr Cyfeillgarwch
Rhannu negeseuon positif ac ysbrydoledig gyda rhieni a chymuned Bro Gwydir
Arwain ‘Deffrwch, Dawnsiwch’
Cynorthwyo gyda threfniannau Gwener Gwerth y Byd
Trefnu diwrnod Meddylfryd Twf
Dadansoddi data holiaduron lles
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
© 2022 Ysgol Bro Gwydir. Gwefan gan Delwedd