Mwynhad
Parch
Dysgu
Profiadau
Cymreictod

Croeso i Ysgol Bro Gwydir

Croeso i chwi i dudalennau gwefan Ysgol Bro Gwydir. 

Lleolir Ysgol Bro Gwydir yng nghanol tref Llanrwst ac fe’i  cynhelir gan Awdurdod Bwrdeistref Conwy.  Adeiladwyd yr Ysgol yn 1896 ac mae’r ysgol wedi manteisio o gynllun ailfodelu yn ddiweddar.  Mae yma 12 ystafell ddosbarth yn ogystal ag ardaloedd pwrpasol ar gyfer gweithgareddau creadigol, digidol a lles.  Rydym yn ffodus fod gennym Neuadd gyda darpariaethau da ar gyfer ymarfer corff ac ystafell fwyta.  Mae Ysgol Feithrin ar safle’r ysgol, a chynhelir clwb brecwast a chlwb gwarchod ar ôl ysgol ar dir yr ysgol. Mae gan yr ysgol faes chwarae eang, coedwig, parc antur, cae chwarae a chwrt chwaraeon aml bwrpas.  Mae gardd ysgol fawr.  Defnyddir yr amgylchfyd diddorol hwn yn gyson yng nghwricwlwm yr ysgol. 

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pawb yn gwneud eu gorau glas i fod yn fentrus ac uchelgeisiol. Bydd ein cwricwlwm cynhwysol yn grymuso plant i ddatblygu sgiliau creadigol, a thanio’r chwilfrydedd at ddysgu.

Ymfalchïwn yng Nghymreictod a diwylliant ein hardal leol ac ymrwymwn i ennyn balchder yn yr iaith Gymraeg. Fel Ysgol Gymraeg pwysleisir meithrin gwybodaeth a deall o ddiwylliant Cymru a meistroli rhugled yn yr Iaith Gymraeg. Mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.

Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.

Credwn hefyd mai trwy feithrin cydweithrediad agos rhwng y cartref a’r ysgol y medrir gwneud y gorau i’ch plentyn. Bydd yna gyfleoedd i chi rannu yn addysg eich plant a byddwn ninnau o hyd ar gael i siarad â chi am unrhyw agwedd o’u datblygiad.

Gobeithir y bydd y wybodaeth yn y wefan hon yn eich hysbysu am athroniaeth a threfniadaeth yr ysgol a hefyd yn hybu cydweithrediad clos a chysylltiad ystyrlon rhwng yr ysgol a’r cartref.  Mae’r bartneriaeth yma yn un holl bwysig ac wrth gydweithio gyda’n gilydd gallwn roi cymorth i bob plentyn wneud y gorau o’i allu. 

Mrs Bethan Jones

Prosbectws
Grwp o ddisgyblion Ysgol Bro Gwydir yn sefyll o flaen wal
Disgyblion Ysgol Bro Gwydir yn sefyll a gwenu mewn dosbarth